Neidio i'r prif gynnwys
Cael help i allforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid

Gwasanaeth newydd yw hwn. Helpwch ni i'w wella a rhowch eich adborth drwy e-bost .

English | Cymraeg

Submit a form to Defra - hysbysiad preifatrwydd

Crëwyd ffurflen Get help with exporting live animals and animal products gan ddefnyddio'r gwasanaeth Submit a form to Defra. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy'n berchen ar y gwasanaeth hwn ac yn ei weithredu.

Pwy sy'n casglu eich data personol

Y sefydliad a greodd ffurflen Get help with exporting live animals and animal products gan ddefnyddio Submit a form to Defra yw rheolydd y data personol a gesglir. Os yw'r rheolydd y tu allan i endid cyfreithiol Defra, yna Defra yw'r prosesydd.

Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd penodol ar gyfer ffurflen Get help with exporting live animals and animal products.

Mae Defra hefyd yn casglu rhywfaint o ddata fel rheolydd. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio pa ddata personol y mae Defra yn eu casglu a'u prosesu fel rheolydd drwy ffurflenni a grëwyd gan ddefnyddio Submit a form to Defra.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am sut mae Defra yn defnyddio eich data personol, e-bostiwch defraforms@defra.gov.uk.

Os hoffech gael gwybodaeth a'ch hawliau cysylltiedig, gallwch e-bostio: data.protection@defra.gov.uk.

Mae swyddog diogelu data Defra yn gyfrifol am gadarnhau bod Defra yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Gallwch gysylltu â'r swyddog yn DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Data rydym yn eu casglu gennych a'r hyn rydym yn ei wneud gydag ef

Os byddwch yn cydsynio, byddwn yn defnyddio cwcis Google Analytics i gasglu gwybodaeth am y ffordd rydych yn defnyddio Submit a form to Defra. Darllenwch y polisi preifatrwydd a diogelwch data ar gyfer Google Analytics.

Mae Google Analytics yn prosesu gwybodaeth am y canlynol:

  • eich cyfeiriad IP
  • y tudalennau rydych yn ymweld â nhw ar Submit a form to Defra
  • faint o amser rydych yn ei dreulio ar bob tudalen o Submit a form to Defra
  • sut y gwnaethoch gyrraedd y wefan
  • beth rydych yn ei ddewis wrth ymweld â'r wefan

Bydd Defra yn sicrhau na all data Google Analytics eich adnabod yn uniongyrchol. Rydym yn gwneud hyn drwy ddefnyddio nodwedd anonymeiddio cyfeiriad IP Google Analytics a thrwy ddileu unrhyw ddata personol eraill o deitlau neu gyfeiriadau URL y tudalennau rydych yn ymweld â nhw.

Ni fydd Defra yn cyfuno gwybodaeth ddadansoddeg â setiau data eraill mewn ffordd a fyddai'n nodi pwy ydych chi yn uniongyrchol.

Rydym yn defnyddio logiau system i gasglu gwybodaeth ynglŷn â'r ffordd y caiff ffurflenni eu defnyddio.

Rydym yn defnyddio'r logiau system a data Google Analytics i greu adroddiadau dienw am berfformiad ffurflenni sy'n defnyddio Submit a form to Defra. Rydym yn defnyddio'r data hyn i wella ffurflenni, er enghraifft, os byddwn yn darganfod nifer uchel o ffurflenni anghyflawn.

Os byddwch yn anfon adborth atom drwy e-bost am ffurflen sy'n defnyddio Submit a form to Defra, byddwn yn anfon eich cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth bersonol arall rydych yn dewis ei chynnwys yn eich e-bost at y rheolydd i'w hadolygu. Gall y rheolydd ddefnyddio eich data personol i ymateb i'ch ymholiad i ddiweddaru ffurflen yn seiliedig ar eich adborth lle bo'n briodol.

Cadw a dychwelyd at ffurflen

Gallwch arbed cynnydd eich ffurflen a dychwelyd o fewn 28 diwrnod. Pan fyddwch yn cadw eich cynnydd, mae angen i chi rannu'r wybodaeth ganlynol â ni:

  • eich cyfeiriad e-bost
  • y cwestiwn diogelwch yr hoffech ei ateb
  • yr ateb i'r cwestiwn diogelwch

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol yw eich cydsyniad.

Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r ffurflen hon weithio. Darllenwch am y cwcis rydym yn eu defnyddio i wneud i'r ffurflen hon weithio.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data

Bydd Submit a form to Defra yn storio eich data am '18 months' ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau a 28 diwrnod os byddwch yn cadw ac yn gadael ac yn peidio â chyflwyno cais.

Caiff unrhyw adborth y byddwch yn ei roi ei storio am '9 months'.

Trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU

Dim ond i wlad arall y tybir ei bod yn ddigonol at ddibenion diogelu data y byddwn yn trosglwyddo eich data personol.

Beth yw eich hawliau

Ar sail y prosesu cyfreithlon uchod, mae eich hawliau unigol fel a ganlyn:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i gael mynediad
  • yr hawl i gywiro
  • yr hawl i ddileu
  • yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • yr hawl i gludadwyedd data
  • hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau unigol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg.

Siarter gwybodaeth bersonol

Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Medi 2025