Neidio i'r prif gynnwys
Cael help gydag iechyd anifeiliaid a phlanhigion

Gwasanaeth newydd yw hwn. Helpwch ni i'w wella a rhowch eich adborth (yn agor mewn tab newydd) .

English | Cymraeg

Submit a form to Defra - hysbysiad preifatrwydd

Crëwyd ffurflen Get help with animal and plant health gan ddefnyddio'r gwasanaeth Submit a form to Defra. Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) sy'n berchen ar y gwasanaeth hwn ac yn ei weithredu.

Pwy sy'n casglu eich data personol

Y sefydliad a greodd ffurflen Get help with animal and plant health gan ddefnyddio Submit a form to Defra yw rheolydd y data personol a gesglir. Os yw'r rheolydd y tu allan i endid cyfreithiol Defra, yna Defra yw'r prosesydd.

Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd penodol ar gyfer ffurflen Get help with animal and plant health.

Mae Defra hefyd yn casglu rhywfaint o ddata fel rheolydd. Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio pa ddata personol y mae Defra yn eu casglu a'u prosesu fel rheolydd drwy ffurflenni a grëwyd gan ddefnyddio Submit a form to Defra.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am sut mae Defra yn defnyddio eich data personol, e-bostiwch defraforms@defra.gov.uk.

Os hoffech gael gwybodaeth a'ch hawliau cysylltiedig, gallwch e-bostio: data.protection@defra.gov.uk.

Mae swyddog diogelu data Defra yn gyfrifol am gadarnhau bod Defra yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Gallwch gysylltu â'r swyddog yn DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk.

Pa ddata personol rydym yn eu casglu a sut y cânt eu defnyddio

Efallai y byddwn yn casglu eich:

  • cyfeiriad e-bost
  • rhif ffôn symudol

Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i'ch galluogi i fewngofnodi i Submit a form to Defra.

Os byddwch yn rhoi eich cydsyniad, byddwn yn defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio Submit a form to Defra. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch bolisi preifatrwydd a diogelwch data Google Analytics a'n tudalen cwcis.

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol

Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol yw cydsyniad.

Cydsyniad i brosesu eich data personol

Mae prosesu eich data personol yn seiliedig ar gydsyniad. Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy ddileu eich mewngofnod Defra drwy'ch dangosfwrdd.

Cwcis

Rydym yn defnyddio cwcis i wneud i'r ffurflen hon weithio.

 phwy rydym yn rhannu eich data personol

Byddwn yn rhannu'r data personol a gesglir o dan yr hysbysiad preifatrwydd hwn â sefydliadau eraill sy'n defnyddio gwasanaeth Submit a form to Defra.

Am ba hyd rydym yn cadw data personol

Bydd Submit a form to Defra yn storio eich data am '18 months' ar gyfer ceisiadau wedi'u cwblhau a 28 diwrnod os byddwch yn cadw ac yn gadael ac yn peidio â chyflwyno cais.

Caiff unrhyw adborth y byddwch yn ei roi ei storio am '9 months'.

Beth sy'n digwydd os na fyddwch yn darparu'r data personol

Os na fyddwch yn darparu'r data personol, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r gwasanaeth sy'n defnyddio Submit a form to Defra.

Defnyddio penderfyniadau awtomataidd neu broffilio

Ni ddefnyddir y data personol a ddarperir gennych ar gyfer:

  • gwneud penderfyniadau awtomataidd (gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd heb unrhyw ymyrraeth ddynol)
  • proffilio (prosesu data personol yn awtomataidd er mwyn gwerthuso rhai pethau am unigolyn)

Trosglwyddo eich data personol y tu allan i'r DU

Dim ond i wlad arall y tybir ei bod yn ddigonol at ddibenion diogelu data y byddwn yn trosglwyddo eich data personol.

Beth yw eich hawliau

Ar sail y prosesu cyfreithlon uchod, mae eich hawliau unigol fel a ganlyn:

  • yr hawl i gael gwybod
  • yr hawl i gael mynediad
  • yr hawl i gywiro
  • yr hawl i ddileu
  • yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • yr hawl i gludadwyedd data
  • hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau unigol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Cwynion

Mae gennych yr hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar unrhyw adeg.

Siarter gwybodaeth bersonol

Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio mwy am eich hawliau dros eich data personol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Medi 2026